skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Richardson  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet, y Cynghorwyr Selwyn Griffiths a Craig ab Iago, a Swyddogion i’r cyfarfod.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu.

5.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 15fed O RAGFYR 2015 pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 15eg o Ragfyr 2015.

6.

NEWIDIADAU YN Y GWASANAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNWYSIAD pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas.

Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Parhau i gynnal trafodaethau gyda Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn ymchwilio’r cyfle i lunio Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Gyffredin a fydd yn cyfarch anghenion y disgyblion a’r bobl ifanc mewn modd effeithiol ac effeithlon.

 

2.    Cymeradwyaeth y Cabinet o Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad; gan ddal sylw i’r bwriad yn 1.

 

3.    Cymeradwyaeth o’r Achos Busnes - sef buddsoddiad unwaith ac am byth o hyd at £1,380,131 er mwyn dangos arbediad blynyddol parhaol o leiaf £808,461.

Awdur: Iwan Trefor Jones

7.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2016-20 pdf eicon PDF 138 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-20 fel drafft ar gyfer ymgynghoriad gyda’r cyhoedd.

Awdur: Geraint Owen

8.

ADOLYGIAD ANGHENION LLETYA SIPSIWN A THEITHWYR GWYNEDD A MON pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig a Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.

Eiliwyd gan y Cynghorwyr Dafydd Meurig a John Wynn Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adolygiad Anghenion Lletya Sipsiwn a Theithwyr Gwynedd a Môn gan ganolbwyntio ar argymhellion Gwynedd sydd wedi eu nodi o 1-7 yn nhabl Argymhellion ac Oblygiadau yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod.

Awdur: Arwel Owen

9.

YMGYNGHORIAD AR DDYFODOL CARTREF Y FRONDEG pdf eicon PDF 144 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts.

Eiliwyd gan y Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Datblygu Opsiwn 5, sef model llety newydd ar gyfer oedolion gydag anabledd dysgu ar safle Y Frondeg.

 

Dod â defnydd cartref preswyl cofrestredig Y Frondeg i ben, yn dilyn cwblhau'r datblygiad llety newydd.

 

Trosglwyddo’r safle i bartner gweithredol e.e. cymdeithas tai er cyd-weithio mewn partneriaeth i ddatblygu’r model llety newydd.

Awdur: Olwen Ellis Jones

10.

YMCHWILIAD IAITH - Y GYMRAEG MEWN CYFARFODYDD pdf eicon PDF 323 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd y Cyng. Craig ab Iago i’r cyfarfod, ac fe amlinellodd yntau brif argymhellion yr Ymchwiliad Iaith i’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn cyfarfodydd.

 

Derbyniwyd yr adroddiad gan y Cabinet, a chytunodd y Dirprwy Arweinydd, yn ei rôl fel deilydd y portffolio iaith Gymraeg, i weithredu ar argymhellion yr adroddiad.

Awdur: Arwel Ellis Jones